Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Ty Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 28 Mehefin 2012

 

Amser:

10:30

 

 

 

Cofnodion:  AC(4)2012(4)

 

 

 

Yn bresennol:

 

Rosemary Butler (Cadeirydd)

Peter Black

Angela Burns

Sandy Mewies

Rhodri Glyn Thomas

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog)

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog)

Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog)

Dave Tosh (Swyddog)

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog)

Non Gwilym (Swyddog)

Steven O'Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad (Swyddog)

Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog)

Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Secretary)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Melding, y Dirprwy Lywydd

Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol

 

 

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Cytunodd y Comisiynwyr i beidio a chyhoeddi’r papurau cyfyngedig.

 

 

</AI1>

<AI2>

1(i)        Datganiadau o fuddiant

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

</AI2>

<AI3>

1(ii)       Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

</AI3>

<AI4>

2.  Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog

 

Trafododd y Comisiynwyr hynt Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), ar ôl i  ystyriaeth Cyfnod 2 o’r Bil ddod i ben ar 21 Mehefin.

Cytunwyd ar y saith gwelliant a gyflwynwyd gan y Comisiwn yng Nghyfnod 2, gan gynnwys gwelliant yn egluro y cyfyngir y ddyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog i drafodion y Cyfarfod Llawn.

Yn ystod trafodion y Pwyllgor, cyflwynodd nifer o Aelodau welliannau nad oeddent wedi pwyso am bleidlais arnynt ond yr oeddent wedi gofyn i’r Comisiwn eu hystyried ymhellach cyn i’r Bil ddychwelyd i’r Cynulliad llawn ar gyfer Cyfnod 3. Roedd y Comisiwn yn cydnabod pe byddai’r Bil yn cael ei drafod ymhellach ar 18 Gorffennaf, fel y bwriadir ar hyn o bryd, na fyddai digon o amser i’r Comisiwn a’r Aelodau perthnasol ystyried a thrafod y materion hyn yn drylwyr ac mewn modd adeiladol.

Cytunodd y Comisiwn i ofyn i ohirio’r ddadl Cyfnod 3 ar y Bil tan yn gynnar yn nhymor yr Hydref. 

Camau i’w cymryd:

·        Rhodri Glyn Thomas AC i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn i ohirio trafodion Cyfnod 3.

·        Rhodri Glyn Thomas AC i weithio gyda swyddogion ac Aelodau’r Cynulliad i drafod y materion y mae angen eu hystyried ymhellach cyn Cyfnod 3.

 

</AI4>

<AI5>

3.  Adroddiad a chyfrifon blynyddol ar gyfer 2011-12

 

Mae Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-12 yn rhoi trosolwg strategol ar flaenoriaethau strategol Comisiwn y Cynulliad, ac yn rhoi pwyslais cryf ar adeiladu Cynulliad ar gyfer y dyfodol

Caiff yr Adroddiad Blynyddol ei gyhoeddi arlein ar 12 Gorffennaf a chaiff y ddogfen lawn, gan gynnwys cyfrifon, ei gosod yn ffurfiol erbyn diwedd y tymor.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad.


 

 

</AI5>

<AI6>

4.  Cyllideb ddrafft 2013-14

 

Cadarnhaodd y Comisiynwyr y byddant yn parhau â’u hymrwymiad i weithio o fewn y gwariant dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn nogfen gyllidebol y llynedd. Y gyllideb ddangosol ar gyfer 2013-14 yw £49.5 miliwn. Mae £33.5 miliwn yn gysylltiedig â chostau gweithredu ac mae £13.7 miliwn ar gyfer cyllideb yr Aelodau ac mae’r gweddill ar gael ar gyfer buddsoddiadau.

Trafododd y Comisiynwyr flaenoriaethau cyllideb 2013-14. Cytunodd Angela Burns AC i gyfarfod ag Aelodau unigol i drafod cyllideb y Comisiwn cyn pennu’r gyllideb derfynol.

Disgwylir i’r Gyllideb gael ei chytuno yng nghyfarfod y Comisiwn ar 27 Medi a’i gosod ar 28 Medi. Caiff y gyllideb ei hystyried ymhellach yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf.

Cam i’w gymryd:Swyddogion i ddod â dogfen ar y gyllideb ddrafft i’r cyfarfod nesaf.

 

</AI6>

<AI7>

5.  Rhaglen Gwasanaethau TGCh y dyfodol

 

Mae’n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru ac Atos o’i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol erbyn 30 Ebrill 2013.

Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu’r ddau opsiwn a ganlyn:

Cytunwyd y byddai’r swyddogion yn parhau i ddatblygu’r opsiynau hyn er mwyn galluogi’r Comisiwn i wneud penderfyniad ar ddarpariaeth yn y dyfodol yn nhymor yr hydref.

 

</AI7>

<AI8>

6.  Adolygiad o fanteision y prosiect UNO

 

Yn y cyfarfod ym mis Hydref 2011, cyflwynwyd adolygiad i’r Comisiwn o’r manteision ac arbedion a ddarparwyd gan y prosiect UNO a gofynnodd i gael adroddiadau cyson ar y manteision a gaiff eu cyflawni.

Cyflawnodd UNO ei amcan o wahanu seilwaith y Cynulliad oddi wrth seilwaith Llywodraeth Cymru. Roedd hwn yn gam angenrheidiol ac anochel sydd wedi rhoi’r Cynulliad mewn sefyllfa lle gall benderfynu ar ei ddarpariaeth gwasanaethau TGCh a strategaeth TGCh yn y dyfodol.

Manteision eraill oedd mudo i Windows 7 ac Office 2010, gwelliannau i gysondeb busnes a chadernid systemau’r Cynulliad a gwell cysylltedd, yn enwedig i swyddfeydd etholaethol.

Cafodd amrywiaeth o broblemau technegol eu datrys ond rydym yn parhau i ystyried rhai eraill, gan gynnwys uwchraddio i’r system gwaith achos, datrys problemau argraffu lleol a symleiddio mynediad at gymwysiadau.

Er bod y Comisiynwyr yn cydnabod bod y camau a gymerwyd fel rhan o’r broses UNO yn angenrheidiol, gwnaethant fynegi pryder am y problemau TGCh y mae Aelodau a’u staff yn parhau i’w hwynebu a chytunwyd y dylai swyddogion barhau i flaenoriaethu’r gwaith o ddatrys y problemau hyn.

 

</AI8>

<AI9>

7.  Portffolios Comisiwn y Cynulliad

 

Bu’r Comisiynwyr yn trafod eu portffolios yn dilyn y flwyddyn gyntaf o weithredu a gwnaethant gytuno ar y newidiadau a gynigiwyd yn y papur, yn amodol ar un gwelliant. Bydd Sandy Mewies AC yn cymryd cyfrifoldeb dros gyfleusterau’r Cynulliad a bydd Peter Black AC yn parhau i fod yn gyfrifol am ystâd y Cynulliad oherwydd y cysylltiadau â chynaliadwyedd.

 

</AI9>

<AI10>

8.  Y Pwyllgor Taliadau

 

Nododd y Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chylch gorchwyl diwygiedig Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol y Cynulliad.

 

</AI10>

<AI11>

9.  Rhaglen dreigl

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ddydd Iau 12 Gorffennaf.  Bydd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys:

 

 

</AI11>

<AI12>

10.      Unrhyw Fusnes Arall

 

·        Trafododd y Comisiynwyr statws Cofnod y Trafodion.

·        Gofynnodd y Comisiynwyr am wybodaeth bellach am yr holl wasanaethau sydd ar gael i gefnogi trafodion y pwyllgorau.

·        Pwysleisiodd Angela Burns AC eitemau i’w nodi yn Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol Comisiwn y Cynulliad.

·        Cytunodd y Comisiynwyr i gynnal cyfarfod anffurfiol yn ystod toriad yr haf.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Mehefin 2012

 

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>